Cyrsiau Person Awdurdodedig
Cartref > Ein Gwasanaethau > Cyrsiau Person Awdurdodedig
Peiriannydd Awdurdodi (Fire)
Mae Peiriannydd Awdurdodi (Fire) yn chwarae rhan hanfodol wrth wella diogelwch, cydymffurfiaeth ac effeithlonrwydd gweithredol mewn sefydliadau gofal iechyd. Rydyn ni’n canolbwyntio ar eich cefnogi i ddatblygu eich system rheoli risg tân. Bydd hyn yn darparu gofal iechyd diogel ac effeithlon o ansawdd uchel i chi fel rhan o'r swyddogaeth ystadau a chyfleusterau.
Fel Peirianwyr Awdurdodi (Fire), rydyn ni:
- yn rhoi cyngor proffesiynol annibynnol i'ch sefydliad gofal iechyd (cymorth proffesiynol a pholisi gweithredol);
- yn eich cefnogi i ddarparu gwasanaethau yn unol â gofynion HTM 05-01 a HTM 05-02/03 y Cod Tân (gofynion dylunio, gosod, cynnal a chadw a hyfforddi);
- yn gweithredu fel aseswr ac yn gwneud argymhellion ar gyfer penodi Personau Awdurdodedig (Fire);
- yn monitro perfformiad rheoli diogelwch tân (cydymffurfio â pholisi a deddfwriaeth berthnasol); ac
- yn darparu archwiliad blynyddol i'r Cyfarwyddwr Lefel Bwrdd a chanddo gyfrifoldeb dros ddiogelwch tân.
Beth bynnag fo'ch gofynion, mae ein hymagwedd hyblyg yn golygu y gallwn weithio gyda chi ar beth bynnag sydd ei angen arnoch, a phryd bynnag.
