Amdanom

Cartref > Amdanom

Mae Firecode Training yn credu bod pobl yn ganolog i reoli risg tân. Dyna pam ein bod ni’n canolbwyntio ar bobl a sut maen nhw’n ymwneud â'r amrywiol systemau atal, amddiffyn ac ymateb i dân i leihau risg.  

Gyda phrofiad o weithio yn y sector gofal iechyd, rydyn ni’n deall pa mor gymhleth a heriol yw'r amgylchedd gweithredu. Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig gwasanaethau rheoli risg tân, gan gynnwys sesiynau hyfforddi pwrpasol i wella perfformiad unigolion, tîm a sefydliadol. Mae ein hymagwedd yn cael ei llywio gan feddylfryd sy’n canolbwyntio ar systemau. Rydyn ni’n chwilio am welliannau, nid atebion, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau sy’n fwy cynaliadwy, nid atebion cyflym sy’n methu. Mae cael y bobl iawn, gyda'r sgiliau cywir, yn y rolau cywir yn hanfodol i gadw cleifion yn ddiogel.

Fel practis annibynnol bach, rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig y lefel uchaf o wasanaeth i'n cleientiaid. Byddwn yn eich helpu lle a phryd bynnag y gallwn. Os na allwn wneud hyn, byddwn yn awgrymu pwy i gysylltu â nhw drwy gynllun cofrestru proffesiynol.  

Cysylltwch â ni, mae i gyd yn dechrau efo sgwrs. 

Yn yr adran yma: