Croeso i Firecode Training Ltd
Mae’n braf eich gweld chi yma.
Ymgynghoriaeth annibynnol, broffesiynol sy’n arbenigo mewn rheoli risg tân ydyn ni.
Gallwn gydweithio â chi i leihau’r risg o dân gan ganolbwyntio ar Atal, Amddiffyn a Pharatoi. Mae’r egwyddorion craidd hyn yn sail i’n hymagwedd o gadw pobl a lleoedd yn ddiogel. Gallwn weithio gyda chi i'r lefel sydd ei hangen arnoch, pan fyddwch ei angen.
Dyw rheoli tân yn y gweithle ddim yn ymwneud â’r systemau ffisegol yn yr adeilad yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â chefnogi pobl i sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau a’r cymhwysedd cywir i reoli tân o fewn system rheoli risg ehangach ar draws un safle neu ragor. Y bobl sy’n gwneud y gwahaniaeth go iawn. Rydyn ni’n canolbwyntio ar weithio gyda chi i rannu cyngor proffesiynol gan ddefnyddio’r canllawiau a’r codau ymarfer priodol i ysgogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth.
Gyda thros chwarter canrif o brofiad fel gweithiwr proffesiynol Adnoddau Dynol Siartredig a thiwtor rheoli risg tân cymwys, rydyn ni mewn sefyllfa unigryw i weithio gyda chi ar brosiectau sy’n lleihau risg tân syn canolbwyntio ar bobl.
Rydyn ni’n cynnig gwasanaethau i’r sector gofal iechyd, cyrff rheoleiddio a hefyd y gwasanaethau tân ac achub a chleientiaid preifat.
Hanes y Cwmni